Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Tachwedd 2019
Amser:
08.30 -
08.50
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Rebecca Evans AC Caroline Jones AC Darren Millar AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Bydd yr holl bleidleisio ar fusnes y llywodraeth yn digwydd yn syth ar ôl eitem 3.
· Cynhelir yr holl bleidleisiau ar fusnes y Cynulliad cyn y Ddadl Fer.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o dan Reol Sefydlog 12.58.
Gofynnodd y Llywydd a allai'r Trefnydd egluro ymdriniaeth y llywodraeth â chyfnod cyn-etholiad San Steffan. Nododd y Trefnydd fod Llywodraeth Cymru yn dal i aros i ganllawiau Llywodraeth y DU gael eu cyhoeddi, ac y byddai'n dod â nodyn i gyfarfod yr wythnos nesaf.
Gofynnodd Vikki Howells i’r Pwyllgor Busnes ystyried gohirio ei Dadl Fer o 13 Tachwedd, felly gofynnodd y Pwyllgor Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth weld a fyddai unrhyw un o’r Aelodau a oedd â Dadl Fer wedi’i threfnu cyn y Nadolig yn gallu cyfnewid gyda Vikki Howells.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 27 Tachwedd 2019 -
· Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai angen i ddeugain Aelod bleidleisio o blaid Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) er mwyn iddo basio.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd ar Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2019, a Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 erbyn dydd Iau 21 Tachwedd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes a chytynwyd hefyd i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019.
Cytunodd Rheolwyr Busnes hefyd i gyflwyno cynigion ar gyfer 13 Tachwedd i ddiwygio cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes a chytynwyd hefyd i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog i'w drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ddiwygio'r Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Cynulliad i adlewyrchu'r newidiadau hyn.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yr wythnos diwethaf ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) gan fod y Bil wedi cael ei ailgyflwyno i'r Senedd, ar ôl cwympo yn ystod y cyfnod addoedi. Fodd bynnag, bydd y Bil yn cwympo eto gan na fydd wedi'i gwblhau cyn i'r Senedd gael ei diddymu cyn yr etholiad cyffredinol, ac felly ni fydd y llywodraeth yn gofyn i'r Pwyllgor Busnes gyfeirio'r Memorandwm i'w graffu.
Etholiad Cyffredinol yn San Steffan
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd na ddylai etholiadau San Steffan effeithio ar fusnes y Cynulliad, a chafodd yr Aelodau eu hatgoffa hefyd fod Rheolau Sefydlog yn mynnu bod yn rhaid i areithiau fod yn "berthnasol i fusnes y Cynulliad". Nid y Cyfarfod Llawn yw'r lle i ymgyrchu dros etholiad cyffredinol y DU ac ni ddylai dynnu sylw'r Aelodau o'u ffocws ar faterion y mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Bydd y Llywydd yn galw unrhyw Aelodau neu Weinidogion i drefn os ydynt yn crwydro oddi wrth hyn i drafod maniffestos etholiad San Steffan, ymgyrchoedd gwleidyddol ac ymgeiswyr unigol.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd at y papur ar Bleidleisio drwy Ddirprwy yr wythnos nesaf i gael adborth gan grwpiau.